Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Sul, 11
Medi 2022
Amser y
cyfarfod: 15.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12973
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines
Dechreuodd yr eitem am 15.00
Arweiniwyd y Senedd gan y Llywydd i nodi munud o dawelwch. Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog, arweinwyr y pleidiau ac Aelodau eraill i dalu teyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines. Cytunodd y Senedd i gyflwyno cynnig o gydymdeimlad i Ei Fawrhydi y Brenin.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.03